![]()
WELSH CATEGORYGwerth
(Yn seiliedig ar ateb y Pennaeth Seattle
pan geisiodd Arlywydd America brynu
rhai o diroedd yr Indiaid yn 1854.)Rwyt ti'n gweld y tir yn wyllt;
i mi, mae'n ardd erioed.
Fflamau a thân a deimli di;
minnau'n teimlo'r coed.Cig a weli 'lawr ffroen dy wn;
gwelaf innau gnawd.
Croen a ffwr yn dy feddwl di,
yn fy meddwl innau: brawd.Rwyt ti'n gweld erwau o wenith gwyn
a minnau'n gweld y paith.
Rwyt ti'n clywed udo yn y nos;
minnau'n clywed iaith.Rwyt ti'n gweld argae a phibelli dwr;
minnau'n gweld afon fyw.
Rwyt ti'n cyfri'r lle yn gyfle aur;
minnau'n ei gyfri'n dduw.Rwyt ti'n gweld y ddinas yn tyfu o hyd;
rwyf innau'n gweld y ddôl.
Rwyt ti'n gweld cynnydd; minnau'n gweld
y ddaear na ddaw'n ôl.
Myrddin Ap Dafydd (1st Prize, Adult)
Nos Da
Pob nos rhoi'r genod yn eu gwlâu,
Ac yno fe gysgant dan gwiltiau Disney,
lleuad aur ar gotwm glas yn ffin i'w byd.
Yn ddeddfol,
sythaf gynfas,
codaf degan,
rhof lyfr gwaith cartref yn amlwg at y bore,
dant dan obenydd lliw.Ond heno,
a hithau a'i phaneidiau diddiwedd
yn ddeuddeg heglog ynghlwm wrth ffilm,
gadewais hi.Pendwmpian yn fy ngwely uwch fy llyfr,
ac eiliad ddwyawr wedyn,
rhwng cwsg ac effro,
rhwng heddiw ac yfory,
synhwyro bysedd ifanc
yn tynnu fy sbectol.
Sian Northey (2nd Prize, Adult)
Mae Menna Elfyn Wedi Dwyn fy Mhyjamas
Gyda'r nos, bellach, rwy'n noethlymun
yn esgymun, rhwng fy shîts
heb stitsh amdana' -
naked as the day I was born
heblaw am y ffaith i fi bwytho
fy nghywilydd o nghwmpas yn dynn
i nhgadw i'n gynnes gyda gwres fy ngwrido, fel hyn.Oherwydd mae Menna Elfyn wedi dwyn fy mhyjamas
ac yn eu gwisgo'n hy' mewn mannau pellennig a chyfagos
heb 'run edau edifar o embaras;
yn Y Barri, Bargoed, Bordeaux a'r Bahamas.
Nid bardd, bardd heb byjamas -
ac mae Menna Elfyn yn gwybod hynny
dyna pam wnaeth hi fynnu
mynd a'n siwt gysgu,
fy nillad breuddwydio,
fy threads chwyrnu,
reit o dan fy nhrwyn i gyda hi
er mwyn medru darllen ei cherddi,
bod yn fardd ac yn fenyw grwfi.Ond rhyw ddydd, pan fydd hi'n darllen cerdd
yn gariadus ofalus gyfarwydd i'w gwrandawyr
mewn caffi'n rhywle diarth,
ar ben coeden mewn cae,
dan ddwr disglair yn y bae
neu ar fuarth fferm estrys estron yn Estonia.
Yn annisgwyl, byddaf yno i dynnu oddi amdani,
i gymryd fy mhyjamas yn ôl,
i'w dinoethi, i'w hailfeddiannua'i gadael yn fardd heb gragen i grynu
yn feddal
heb ddim ond ei cherddi amdani i'w chuddio
ac ambell gwpled yn gysgod -
dedfryd lem i'r pyjama-leidr euog
tra mod i'n cael trwmgysgu'n felys
wedi blynyddoedd o nosweithiau brau, darniog, bregus fel adennydd, heb freuddwydio,
a bydd fy mhen yn suddo'n ddwfn i blu'r gobennydd
i fi dreulio awr o hun fy hun yng nghwmni englyn neu gywydd.
Elinor Wyn Reynolds (3rd Prize, Adult)
Home | Féile Filíochta | Prizewinners 2001 | County Council