WELSH
CATEGORY
Y Cwymp
Yng Nghenarth
Mae hin
llifon llydan trwy hafau Tre Wen,
mor osgeiddig â thywysoges
yn bwrw'i phrynhawn yn ei pherllan;
ar waelod y dyffryn, hi yw brenhines
y tirwedd teg rhwng Maenor Deifi ar môr,
cyn ir llanw greu crych ar ei chroen.
Yng Nghenarth, mae pethaun wahanol;
ei gwasgu drwy gulni rhigol,
ei thasgu o graig i graig
ai thaflun ddidostur i gwter.
Uwchben y dwr trwblus cofiais am un.
Aeth heibioi Thre Wen cyn fy ngeni;
wyddwn i ddim am ei Chenarth
nes ei bod hin rhy hwyr;
ond fei gwelais yn nhegwch ei Maenor Deifi
cyn iddi fynd i gwrdd â llanwr môr.
T.
James Jones (1st Prize, Adult)
back
Tusw o arswyd
Yn gwlychun y glaw
A thusw o ddagrau
Yn boddin y baw.
Tusw o gariad
Yn tywynnu n yr haul
A thusw o golled
Yn gorwedd mewn tail.
Tusw o gusan
Yn cuddio yn y niwl
A thusw o goflaid
Yn marw......
Ar ceir yn dal i ruthro heibior foment
Ar gofeb o flodau wedi gwywo
Ar ceir yn dal i ruthro ...
Ar selophen yn crio
Ar ceir yn dal i ruthro heibio.
Gwen
Lasarus James (2nd Prize, Adult)
back
Nhad
gartre,
Ar lle yn llawn
O ymwelwyr am alw heibio
I ddymunon dda
A llwyr wellhad;
Y tebot croeson
Tywallt gwerthfawrogiad Mam,
Tra minnaun damio
Eu haros
Ar cinion oeri ...
O Dad, yn deulu dedwydd ...
Glafoerais y geiriau
Dan gil-lygadun slei
Bob dim a ddoin bryd imi ...
Ein lluniaeth an llawenydd.
Ameniais
A sgythru am y wledd o mlaen
Fel tasai ddim fory i fod ...
Heb wybod
Fod wrth y bwrdd
Ymwelydd na wnes moi weled
Wedi galw heibio fy nhad,
Ac yn gwledda,
Yn ei fwyta
Fon fyw.
Rhys
Dafis (3rd Prize, Adult)
back
Chwydfa!
poets ar y traeth
pluen wen fel gewyn.
Halen a chregyn arni
-maneg Tsieini.
Rhwyd fel fflamaur tân
a phriciau mân.
Braich hen wr
mewn pwll o ddwr.
Sandal wedii chnoi
yn ysu am ffrind bach.
Neidr o raff
o gwmpas preniach.
Gwymon a rhaff
fel dau gariad ynghlwm.
Wyneb gwythiennog ar ddarn o bren
gogr yn ysu.
Potel wedi chwysu.
Bysedd gwrach o frigau
a chregin yn cael strach.
Poer y môr
ar frôc.
Chwydfa Neigwl ...
Llyr
Titus Hughes (1st Prize, Under 17)