Féile Filíochta- International Poetry Competition - A Dún Laoghaire-Rathdown County Council Library Event
you are here> homepage/Prizes Winners 2007/ Welsh Category

Drannoeth


Ac meddai'r meddyg wrthi,
"Dwêd beth ddigwyddodd ddoe."

Ond nid yw ddoe ond un ddolen;
mae llawer mwy nag un i ben y bont.
Rhedodd hyd dair ar hugain
neithiwr, i ben y twr;
gwythiennau chwech o gledrau
dan ei throed yn arwain i'r gaer
a'n lleisiau o'r weilgi bell
yn galw arni i bwyllo.

Dringo hyd grib y delyn fetel
at un tant sy'n rhwd trosto.
Hwn yw'r nodyn mae hi'n ei daro:
swn enaid heb ei diwnio.
Dringo'n uwch at fwlb heb oleuo,
isio clocsio ar ei gwylfa gyfyng,
ar y dibyn
lle nad oes neb yn disgyn.

Disgord yn seiniau'r nos
hudodd y dref yn dyrfa;
un hedyn o drybini yn denu
tystion at ei herchwyn hi,
yno, uwchlaw ei chadwyni.
Lliaws mud i chwarae'u rhan:
gwyfynnod - hi'n oleuni ar lwyfan.

"Rhedaist i'r glaw…?"
Roedd o'n ffeind, yn procio'r cof;
iddi hi, ni ddigwyddodd.

Ond do, fy merch, bwriodd dy gyfeillion
berlau, diemyntau hyd fy ngruddiau.
Fe'u cynigiais yn glustog i ti,
rhois bryderon fy mynwes yn blu,
teflais f'yfory yn rhwyd rhwng y tyrau,
hyrddiais fy rhyddid yn rhaff.
Rydw i yma, gwaeddais. Yma i ti.
Mam. Yn y glaw.

"Daeth yr angylion ataf," meddai hithau, o'r diwedd,
"a buom yn dawnsio. Fi a'r angylion.
Am dipyn bach."

Sian Owen  (1st Prize, Adult)

back


;-) x

Mae yna eira ar y traeth yng Nghricieth,
A neges yn hosan fy ffôn
yn swatio rhwng oren a minciag.

Yno ymhysg marblis a chyflath
yn lwmp bach o lais ar y lôn,
yn gusan sy'n gofyn am chwanag.

Dwi'n teimlo dy enw trwy'r gwead
a dyfalu pa flas fydd dy wên
ar y bore sy'n hir i Gaer Dyni.

Cromfach flas siocled, ac am eiliad
ti'n degan, yn ddoli, yn drên.
A gwelais eira ar dywod eleni.

Nid oes signal ffôn yn fy nhy, rhaid aros tan y bore i agor fy negeseuon.


Sian Northey (2nd Prize, Adult)

back


ar ddechrau'r daith

yn sgil gweld nwyddau beddau gwryw a benyw o gyfnod
Celtaidd cynnar yn y Rheinisches LandesMuseum, Bonn


Ag arfer urddas hil a hyder ffydd y rhoddwyd 'rhain
ar ben eu ffordd; y geiriau'n gynta'n gwlwm tyn, ac
yna'r dathlu deddfol: bwyd, a llyn yn lli, cyn gosod
yn y llestri pridd olion eu harlwy symbolaidd - bara,
llysiau sur, cacennau mêl - i'w cynnal hyd eu hynt
â mwy na murmur gwynt y corsydd rhwng asennau.

Bu galw ar gymdogion, ewyllys câr a chofio hen
gymwynas er darpar at y daith: i hwn addaswyd
helm, caed tarian, gwayw fras, a llafn yn fesur
gwryd. A dyma ernes cysur, bywyd maith, mewn
cydaid aur a hoelion hir, cyn lapio'n dynn amdano
len eu parch yn wâl, yn gwdyn cario'r gweddill.

A hithau'n gymar gwron ni fu angen arni fwy na
harnais pres i'r meirch a'u cludai'r siwrnai bellaf
hon, a chelwrn ceirch. Ond hudwyd iddi waddol
gwell yn anwes gleiniau'i gwanwyn ar ei bron a
tholach crib fach asgwrn yn ei llaw, i'w harddwch
sgleinio eto'n llachar trwy ei llwch pan ddônt i dre.


Christine James (3rd Prize, Adult)

back

 

 

home | back | next | top

féile logo return to homepage