HYSBYSIAD I’R WASG
CANLYNIADAU FÉILE FILÍOCHTA 2004
Mae
canlyniadau’r 16eg Féile Filíochta/Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol
flynyddol bellach ar gael! Daeth 6,076 o gerddi mewn 9 iaith i law ac mae’r
buddugwyr yn dod o bedwar ban byd: Awstralia, UDA, yr Almaen, Awstria, Ffrainc,
yr Eidal, Sbaen, yr Alban, Cymru, Lloegr, Sweden ac wrth gwrs Iwerddon. Mae’r
holl gerddi buddugol yno bellach ichi eu mwynhau ar www.dlrcoco.ie/library
Pleser
o’r mwyaf inni eleni yw cyhoeddi bod ein dyfarniad o fri, sef Cerdd Ewrop, yn
mynd i’r cystadleuydd o Gymru Tony Bianchi am ei gerdd fuddugol Cartref.
Caiff y tlws hwn ei ddyfarnu gan yr Assemblée des Régions d'Europe am y gerdd
amlycaf yn y Categori Oedolion. Cewch ddysgu mwy am Tony a darllen ei gerdd
fuddugol yn Gymraeg neu Saesneg ar ein gwefan.
Calondid
o’r mwyaf oedd gweld cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau Cymraeg eleni, sef mwy
na phum gwaith nifer y llynedd. Dyfarnwyd yr ail wobr eleni i Ifor Ap Glyn o
Gaernarfon am Gwylanod pedwar awr ar hugain a Nia Môn o Lanberis a ddaeth yn
drydydd gyda Ceri. Yn y categori o dan 17 oed, Rhydian Prys o’r Bala
enillodd y wobr gyntaf a Dyfarniad Arbennig y Féile Filíochta am ei gerdd Ysgol.
Caiff
cerddi buddugol Féile Filíochta 2004 eu dathlu yn Neuadd y Sir, Dún Laoghaire
ar ddydd Gwener 1 Ebrill. Bydd tocynnau ar gael o 1 Mawrth ymlaen gan Marian
Keyes, Uwch-lyfgellydd (Diwylliant) ar (01) 278 1788 neu drwy e-bostio
mkeyes@dlrcoco.ie Bydd y dathlu hwn yn
cyd-ddigwydd â Gŵyl Poetry Now Dún Laoghaire-Rathdown (PN05) a gynhelir
rhwng 31 Mawrth a 3 Ebrill 2005, wedi ei threfnu gan Swyddfa Gelfyddydau’r
Cyngor Sir. Mae manylion llawn Poetry Now ar gael drwy e-bostio arts@dlrcoco.ie
cyf: Poetry Now neu drwy ffonio (01) 205 4873.
Carem
fynegi’n diolch i’n holl feirniaid a noddwyr am eu cefnogaeth a’u gwybodaeth
arbenigol, gan ddiolch o galon hefyd i’r oedolion, y glasoed a’r plant niferus
a gymerodd ran yn y gystadleuaeth unigryw hon. Diolchiadau arbennig i’r bobl
ganlynol a weithiodd mor galed i hybu ceisiadau Cymraeg eleni: Arwel Jones a
Dafydd Pritchard o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Siân Northey o Tŷ Newydd, Lleucu Siencyn o’r
Academi a Non Tudur o Golwg. Rydym yn
arbennig o ddiolchgar i gwmni Stena Line am y nawdd sydd wedi galluogi'r
enillwyr o Gymru i deithio o Gaergybi yn rhad ac am ddim yn ystod y 10 mlynedd
ddiwethaf. Bydd
buddugwyr Cymraeg y Féile Filíochta yn darllen eu cerddi yng Ngŵyl Tŷ Newydd yng
Nghricieth ar ddydd Sadwrn 9 Ebrill. Edrychwch yn www.tynewydd.org am fanylion llawn.
Caiff
yr 17eg Féile Filíochta/ Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol ei lansio yn
gynnar ym mis Mehefin 2005.